Y Pwyllgor Menter a Busnes

22 Medi 2011

 

EBC(4)-02-11

 

Tystiolaeth gan Huw Lewis, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth

 

Fy Mlaenoriaethau ar gyfer Adfywio

 

1. Y cyd-destun

 

1.1 Pobl a Lleoedd yw ffocws adfywio. Y nod yw creu lleoedd sy'n gynaliadwy yn yr hirdymor, gan wella ansawdd bywyd y bobl sy'n byw ac yn gweithio o fewn ac o amgylch y lleoedd hyn.

 

1.2 Mae'r term adfywio yn cwmpasu amryw o weithgareddau gan gynnwys newid gwedd ffisegol mannau trefol gan gadw eu nodweddion unigryw er mwyn eu gwella o safbwynt economaidd a mynd i'r afael â diffygion y farchnad. Mae hefyd yn cynnwys cydweithio â phobl yn eu cymunedau i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol amddifadedd. Mae adfywio ffisegol yn aml iawn yn ymwneud â gwrthdroi neu osgoi dirywiad ardal, neu dargedu buddsoddiad tuag at ardaloedd difreintiedig na fyddant yn denu buddsoddiad fel arall oherwydd bod nifer o ddiffygion yn y farchnad.

Mae gweithgareddau o'r fath yn cael eu cynnal ledled Cymru drwy wahanol sefydliadau a phartneriaethau.

 

1.3 Mae gennym ni, Lywodraeth Cymru, nifer o raglenni sydd â'r nod penodol o gefnogi adfywio, gan gynnwys Cymunedau yn Gyntaf a'r Cynllun Datblygu Gwledig. Rydym hefyd yn buddsoddi ar draws nifer o adrannau er mwyn sbarduno gweithgareddau adfywio.

 

2. Polisi adfywio cyfredol fy mhortffolio

 

2.1 Ym mis Hydref 2010, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru'n Un yr adeg honno y Fframwaith ar gyfer Ardaloedd Adfywio: cymru.gov.uk/docs/desh/publications/101018regenareasframeworkcy.pdf .

 

2.2 I hwyluso'r broses o roi'r Fframwaith ar waith, sefydlwyd Panel Adfywio Cenedlaethol. Mae'r Panel, sydd o dan gadeiryddiaeth Viv Sugar, yn cynnwys y sefydliadau canlynol:

 

 

2.3 Mae'r Fframwaith yn bolisi i'r Llywodraeth o hyd, er y gall gwaith polisi gymryd ei le yn y dyfodol. Rwyf wedi cadw'r Panel Adfywio Cenedlaethol ac yn ddiolchgar iawn am ei fewnbwn a'i gyngor parhaus.

 

2.4 Mae'r Llywodraeth, a phroffesiynau a sefydliadau adfywio, hefyd yn elwa ar waith Canolfan Rhagoriaeth Adfywio Cymru: www.regenwales.org. Rwyf wrthi'n ystyried y ffordd fwyaf priodol o fwrw ymlaen â'r gwaith hwn ar ôl i drefniadau ariannu Canolfan Rhagoriaeth Adfywio Cymru ddod i ben ym mis Mawrth 2012.

 

3. Gweithgareddau cyfredol fy nghyllideb adfywio

 

3.1 Bu'r Fframwaith ar gyfer Ardaloedd Adfywio yn edrych ar y dull o weithio yn yr Ardaloedd Adfywio a gafodd ei ddatblygu gan ddefnyddio model rhaglen Blaenau'r Cymoedd a sefydlwyd yn 2005. Nod yr Ardaloedd Adfywio yw mynd i'r afael â'r diffyg cydraddoldeb rhwng gwahanol ardaloedd yng Nghymru drwy fuddsoddi mewn mannau sy'n tanberfformio ar hyn o bryd, o safbwynt economaidd a lles, er mwyn gwella'u perfformiad. Drwy fuddsoddi yn yr ardaloedd hyn sy'n tanberfformio, y nod yw gwella ffyniant a lles cyffredinol Cymru gyfan. Y nod yw manteisio ar gyfleoedd buddsoddi a fydd yn sicrhau datblygiad cynaliadwy mewn canolfannau trefol a gwledig.

 

3.2 Mae'r dull gweithredu hwn ar waith nawr mewn pedair Ardal Adfywio arall ledled Cymru sef Aberystwyth, y Barri, Môn a Menai, Arfordir y Gogledd, Abertawe a Chymoedd y Gorllewin.

 

3.3 Mae'r Adran Tai, Adfywio a Threftadaeth hefyd yn cefnogi'r sefydliadau a'r partneriaethau canlynol sy'n ymwneud â gweithgareddau adfywio:

 


3.4 Ar ran fy mhortffolio rwyf hefyd yn gyfrifol am Gronfa Buddsoddi Cymru: www.rifw.co.uk.

 

4. Gweithgareddau adfywio trawsbynciol

 

4.1 Mae Adfywio yn drawsbynciol ac felly mae'n gofyn am gydweithio agos ar draws portffolios y Llywodraeth ac ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol. Ymhlith yr enghreifftiau o gydweithio llwyddiannus o fewn ac y tu allan i'r Llywodraeth mae:

 

·         Buddsoddi mewn ad-drefnu addysg bellach yn ardal Blaenau'r Cymoedd er mwyn creu canolfannau dysgu nodedig ym Merthyr Tudful a Glynebwy.

·         Ymgyrch Calon ac Enaid y Cymoedd - ffordd boblogaidd o farchnata lleoedd yn y Cymoedd. Mae eisoes wedi ennill tair gwobr.

 

 

4.2 Drwy greu fy mhortffolio mae'r Llywodraeth wedi cydnabod y cyfraniad pwysig y gall Tai a Threftadaeth ei wneud at Adfywio. Mae buddsoddi cyfalaf mewn tai, er enghraifft, wedi cyfrannu'n fawr at adnewyddu ardaloedd difreintiedig yn enwedig wrth ymrwymo i fodloni Safon Ansawdd Tai Cymru. Mae ansawdd tai pobl yn cael effaith sylweddol ar eu hiechyd meddwl a chorfforol. Mae'r amgylchedd hanesyddol yn cynnig asedau economaidd (cofebau sy'n rhoi hwb i dwristiaeth er enghraifft) a nodweddion unigryw sy'n gallu helpu i lywio gweithgareddau adfywio mewn ardal benodol. Mae chwaraeon a'r celfyddydau yn cynnig amryw gyfleoedd datblygu cymunedol sydd â manteision economaidd a chymdeithasol.

 

4.3 Rwy'n benderfynol o wneud y defnydd gorau o'r cysylltiadau rhwng y tair rhan o'm portffolio, gan adeiladu ar y llwyddiannau hyd yma. Mae'r rhain yn cynnwys:

 

Tai

 

Yr Amgylchedd Hanesyddol

 

 

 

Llyfrgelloedd, Amgueddfeydd ac Archifau

 

Chwaraeon

 

Y Celfyddydau

·         Cynnal Eisteddfod Genedlaethol lwyddiannus ym Mlaenau'r Cymoedd yn 2011.

·         Parhau i roi cymorth i adfywio cymunedau drwy brosiectau fel Plant y Cymoedd, Celf ar y Blaen, Cyrraedd y Brig, Sblash, Young Promoters, a Cherdd Gymunedol Cymru.

·         Buddsoddi mewn prosiectau cyfalaf mawr gan gynnwys Oriel Gelf Glynn Vivian yn Abertawe a'r prosiect Pontio ym Mangor.

 

5. Polisïau'r dyfodol

 

5.1 O fewn fy mhortffolio, fy mlaenoriaethau ar gyfer y dyfodol fydd bodloni ymrwymiadau maniffesto rydw i'n gyfrifol amdanyn nhw gan weithio ar draws y Llywodraeth,  sef:

 

 

 

5.2 Rwy'n croesawu ymchwiliad y Pwyllgor yn ymwneud ag adfywio canol trefi, a fydd yn ddefnyddiol o safbwynt llywio ein gwaith ar yr ymrwymiadau hyn.

 

5.3 Mae nifer o ymrwymiadau maniffesto portffolios gweinidogol eraill naill ai'n berthnasol i'm portffolio i neu â chysylltiadau cadarn iawn ag ef. Efallai yr un mwyaf perthnasol yw:

 

 

5.4 Dros y misoedd nesaf byddaf yn ystyried y ffordd orau o fuddsoddi arian fy mhortffolio yn y dyfodol. Wrth wneud hyn, bydd rhaid i mi sicrhau fy mod:

 

·         yn bodloni'r ymrwymiadau maniffesto uchod

·         integreiddio gweithgareddau adfywio ar draws y Llywodraeth ac y tu allan iddi, gan gynnwys o fewn fy mhortffolio i a chyda Cymunedau yn Gyntaf, o fewn fframwaith cydweithio'r gwasanaeth cyhoeddus a gaiff ei lywio gan Adolygiad Simpson a buddsoddiadau strategol arfaethedig ar draws Cymru.

·         adeiladu ar yr arfer gorau a'r dystiolaeth sydd ar gael, gan gynnwys gwerthusiadau o brosiectau a rhaglenni cyfredol lle bo'n briodol

·         manteisio i'r eithaf ar y cyfleodd sy'n deillio o gylch arall o gyllid Ewropeaidd.

 

 

Huw Lewis AC
Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth